Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (98)v4 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13:30
Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Cwestiwn Brys 1
Dechreuodd yr eitem am 14:20
Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr oedi cyn cyflwyno Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, a’r goblygiadau posibl i bobl sy’n derbyn budd-dal y Dreth Gyngor.
Cwestiwn Brys 2
Dechreuodd yr eitem am 14:31
Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am golli 580 o swyddi yn Tata Steel yn Ne Cymru.
Cwestiwn Brys 3
Dechreuodd yr eitem am 14:36
Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ffyrdd sydd wedi’u cau yn ddiweddar oherwydd llifogydd yng Ngogledd Cymru.
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14:51
3. Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Cyflwyno Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 15:01
4. Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am Ardaloedd Menter - TYNNWYD YN ÔL
5. Datganiad gan y Prif Weinidog ar Ymateb Llywodraeth Cymru i'r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru - TYNNWYD YN ÔL
6. Dadl ar Adroddiad Blynyddol Datblygu Cynaliadwy
Dechreuodd yr eitem am 15:21
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r ffaith bod Adroddiad Blynyddol y Cynllun Datblygu Cynaliadwy wedi’i gyhoeddi, ac yn arbennig sylwadau’r Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi argymhellion y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ar waith, er mwyn sicrhau y rhoddir digon o sylw i feysydd fel amaethyddiaeth, diogelu'r cyflenwad bwyd a thwristiaeth yn y dyfodol.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi beirniadaeth y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy fod ‘rhai rhannau o’r adroddiad i’w gweld yn hyrwyddo arian a ddyrennir ac a werir ar gynlluniau yn hytrach na hyrwyddo’r canlyniadau a’r manteision i gynaliadwyedd sy’n deillio o’r cynlluniau hynny’, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y modd y mae’n asesu llwyddiant rhaglenni Llywodraeth Cymru ar draws pob adran, yn seiliedig ar ganlyniadau yn hytrach nag ar fewnbwn.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy o gynnydd at Gymru gynaliadwy os gwnaiff sicrhau bod mwy o’r canlynol ar gael:
a) rhaglenni
effeithlonrwydd ynni cartref fel Arbed;
b) rhaglenni sy'n annog cymunedau i fuddsoddi mewn prosiectau ynni
adnewyddadwy graddfa fach fel trydan dŵr; ac
c) trafnidiaeth gyhoeddus integredig.
Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i drydanu, a’r effaith gadarnhaol y bydd hyn yn ei chael ar leihau allyriadau CO2 Cymru.
Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gohiriwydy
bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon
tan y Cyfnod Pleidleisio.
Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn mynegi pryder nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer o gynnydd at wella ei Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy yn 2012.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
33 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar y Llywodraeth i ddod â chamau unioni ymlaen ar frys i adfer y 22 Dangosydd Datblygu Cynaliadwy ar gyfer 2012 sydd wedi dirywio neu nad ydynt wedi gwella.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig heb ei ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod y prif ddangosydd Gwerth Ychwanegol Crynswth, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, yn cyfateb i 74% o gyfartaledd y DU yn 2010, yr isaf o blith y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig heb ei ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu na ddefnyddir llawer ar ddangosyddion economaidd yn yr adroddiad i ystyried llwyddiant polisi Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
19 |
0 |
33 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 9.
Gwelliant 10 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi pryderon parhaus y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ynghylch elfennau o strwythur a chynnwys yr adroddiad.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 10.
Gwelliant 11 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r argymhellion a wneir yn yr adroddiad gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ar waith yn llawn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 11.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5102 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynnydd
a wnaed mewn perthynas â datblygu cynaliadwy yn 2011-12, fel
yr amlinellir yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar y Cynllun
Datblygu Cynaliadwy, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
ar 20 Tachwedd 2012.
Yn croesawu’r ffaith bod Adroddiad Blynyddol y Cynllun
Datblygu Cynaliadwy wedi’i gyhoeddi, ac yn arbennig
sylwadau’r Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi argymhellion y Comisiynydd
Dyfodol Cynaliadwy ar waith, er mwyn sicrhau y rhoddir digon o sylw
i feysydd fel amaethyddiaeth, diogelu'r cyflenwad bwyd a
thwristiaeth yn y dyfodol.
Yn nodi beirniadaeth y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy fod
‘rhai rhannau o’r adroddiad i’w gweld yn hyrwyddo
arian a ddyrennir ac a werir ar gynlluniau yn hytrach na
hyrwyddo’r canlyniadau a’r manteision i gynaliadwyedd
sy’n deillio o’r cynlluniau hynny’, ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ailystyried y modd y mae’n asesu
llwyddiant rhaglenni Llywodraeth Cymru ar draws pob adran, yn
seiliedig ar ganlyniadau yn hytrach nag ar fewnbwn.
Yn credu y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy o gynnydd at Gymru gynaliadwy os gwnaiff sicrhau bod mwy o’r canlynol ar gael:
a) rhaglenni
effeithlonrwydd ynni cartref fel Arbed;
b) rhaglenni sy'n annog cymunedau i fuddsoddi mewn prosiectau ynni
adnewyddadwy graddfa fach fel trydan dŵr; ac
c) trafnidiaeth gyhoeddus integredig.
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i drydanu, a’r effaith gadarnhaol y bydd hyn yn ei chael ar leihau allyriadau CO2 Cymru.
Yn nodi pryderon parhaus y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ynghylch elfennau o strwythur a chynnwys yr adroddiad.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r argymhellion a wneir yn yr adroddiad gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ar waith yn llawn.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
13 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
7. Cynnig i atal Rheol Sefydlog 12.20(i) ac 11.16 i gynnal trafodaeth ar Gomisiwn Silk
Dechreuodd yr eitem am 16:02
NDM5107 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a’r rhan
honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y
datganiad a’r cyhoeddiad wythnosol yn darparu’r
amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol,
er mwyn caniatáu i NNDM5108 gael ei ystyried yn y Cyfarfod
Llawn ddydd Mawrth 27 Tachwedd 2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8. Dadl ar yr adroddiad gan Gomisiwn Llywodraeth y DU, Comisiwn Silk
Dechreuodd yr eitem am 16:03
NDM5108 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu cyhoeddi’r adroddiad gan
Gomisiwn Llywodraeth y DU, Comisiwn Silk, y cafwyd cytundeb
unfrydol arno, ac mae’n edrych ymlaen at ei roi ar
waith.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 16:57
9. Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17:01
NDM5083 Nick Ramsay (Mynwy):
Asbestos mewn ysgolion: Datgelu’r wybodaeth yn hytrach nag atal hawl rhieni i gael gwybod amdani.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:26
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 28 Tachwedd 2012.